Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
(45 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau
(45 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
(45 munud)
6 Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022
(15 munud)
NDM7938 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 08 Chwefror 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) - TYNNYWD YN ÔL
(0 munud)
NDM7943 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM7949 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM7948 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2022.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws)
(15 munud)
NNDM7948 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2021 a 3 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
9 Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru
(15 munud)
NDM7941 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
10 Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23
(60 munud)
NDM7940 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 1 Mawrth 2022.
11 Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2022-23
(60 munud)
NDM7942 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2022-23 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
12 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 9 Mawrth 2022